Adborth Cyfranogwyr
"Fel un sydd wedi dioddef o bryder ac iselder tymor hir, mae'r gwasanaeth yma wedi newid fy mywyd i. Rydw i'n deall fy hun yn well nag erioed ac yn ddigon cryf i dderbyn a herio fy hun mewn ffordd bositif. Cadwch y gwasanaeth rhagorol yma'n dal i fynd a helpu cymaint o bobl â phosib!"
"Rydw i'n deall fy nghyflwr yn llawer gwell a sut i'w reoli'n fwy effeithiol. Mae fy hunanhyder i wedi cynyddu o ganlyniad, ac mae gen i agwedd fwy positif. Fe hoffwn i ddiolch i'r tîm i gyd am wneud gwaith mor rhagorol - rydych chi wir yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl. "
"Mae cymorth y therapydd wedi bod yn anhygoel. Roedd y taflenni'n ffordd ddefnyddiol o weithio ar fy adferiad i rhwng sesiynau ac roedd y trafodaethau yn gymaint o help ac yn dysgu llawer i mi. Nid yn unig mae hi wedi fy helpu i yn ôl i'r gwaith, ond hefyd mae wedi rhoi adnoddau a gwybodaeth i mi i symud ymlaen. Rydw i'n teimlo'n well nag ydw i wedi'i wneud ers amser maith."
"Yn wir, mae Lles drwy Waith wedi bod yn gymorth mawr i fi. Hebddo byddwn wedi bod ar fy isaf. Rwyf wedi cael fy annog i wneud cais am swyddi newydd, ac edrychais ymlaen yn fawr at y galwadau. Rwy’n teimlo y gallaf wneud mwy ar ôl siarad â’r cynghorydd ac rwyf bellach mewn sefyllfa llawer gwell yn dechrau swydd newydd ymhen ychydig wythnosau."
"Mae wedi fy helpu i ddelio â fy mhroblemau ac wedi gwneud fy ngwaith yn haws. Rwy'n deall fy hun yn well nawr ac mae fy mhoenau wedi gwella hefyd. Roedd meddyliau negyddol fel arfer yn rheoli fy mywyd, ond nawr rwyf yn teimlo’n well. Mae wedi helpu gyda fy ngorbryder yn fawr."