Strategaethau Atal Hunanladdiad ar gyfer y Gweithle
8 Rhagfyr, 2021, 12:30pm – 8 Rhagfyr, 2021, 1:30pm
@ GweminarMae’r weminar hon, sy’n rhad ac am ddim ac yn para un awr, ar gyfer rheolwyr, goruchwylwyr, arweinwyr tîm a gweithwyr. Mae’n cael ei darparu gan ein Gwasanaeth ‘Cymorth yn y Gwaith’ (IWS) ac mae’n rhan o raglen ehangach o gymorth lles i unigolion (cyflogedig a hunangyflogedig) a busnesau bach a chanolig ledled Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod argyfwng Covid-19, rydyn ni’n cyflwyno cyfres o weminarau am ddim, gan gynnig arweiniad penodol i gyflogwyr ar sut i gefnogi staff yn yr adegau hynod heriol hyn, ac awgrymiadau ac offer i weithwyr am ofalu am eu lles meddyliol a chorfforol.
Mae gan gyflogwyr ran hanfodol i’w chwarae wrth atal hunanladdiad. Mae pobl sydd mewn gwaith yn treulio tua thraean o’u bywydau yn y gweithle. Gall cydweithwyr a rheolwyr llinell ddarparu rhwydwaith o gymorth cymdeithasol ac emosiynol pwysig, sy’n seiliedig ar rannu profiadau. Mae cyflogwyr mewn sefyllfa unigryw i helpu cydweithwyr i ddeall pwysigrwydd lles ac iechyd meddwl da, ac mae ganddynt y wybodaeth am sut i gadw’n ddiogel ac yn iach a sut i adnabod yr arwyddion o fod yn sâl.
Dyma rai o’r strategaethau yn y gweithle sy’n gallu helpu i atal hunanladdiad:
- Creu amgylchedd gwaith sy’n meithrin cyfathrebu, parch, ymdeimlad o berthyn a chysylltu
- Nodi ffactorau risg a chefnogi gweithwyr a allai fod mewn perygl o gyflawni hunanladdiad
- Cyfeirio at y llinellau cymorth a chefnogaeth perthnasol sydd ar gael yn lleol ac yn genedlaethol
- Ymwybyddiaeth o hunanladdiad ac hyfforddiant ar gyfer ei atal
- Cael cynllun ar gyfer ymateb i ymgais i gyflawni hunanladdiad neu farwolaeth
Ar ôl i chi gofrestru am le am ddim, byddwch yn derbyn e-bost a fydd yn rhoi’r cyfarwyddiadau ar gyfer ymuno â’r sesiwn hon ar Microsoft Teams.