Lles a Chadernid
3 Mawrth, 2021, 10:00am – 3 Mawrth, 2021, 11:00am
@ GweminarO ganlyniad i bandemig y coronafeirws, mae llawer ohonom yn wynebu lefelau digynsail o straen a gorbryder. Felly mae’n hanfodol bod unigolion a chyflogwyr yn cymryd camau rhagweithiol i reoli’r heriau hyn a pharhau’n gadarn.
Yn y weminar hon rydyn ni’n edrych ar y canlynol:
- y model ‘5 Llwybr at Les’ a sut gellir ei gynnwys mewn bywyd bob dydd
- pwysigrwydd gweithgareddau hunan-ofal rheolaidd, a
- y cysyniad o ‘gadernid’ a ffyrdd ymarferol o’i hybu.
Ar ôl cwblhau’r cofrestru am ddim, byddwch yn derbyn e-bost yn manylu ar y cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer y digwyddiad hwn ar Microsoft Teams.