Herio Ffyrdd o Feddwl Di-fudd yn ystod Covid-19
23 Mawrth, 2021, 1:00pm – 23 Mawrth, 2021, 2:00pm
@ GweminarYn ystod argyfwng Covid-19, rydym yn cyflwyno cyfres o weminarau am ddim, gan gynnig cyfarwyddyd penodol i gyflogwyr ar sut i gefnogi staff yn ystod y cyfnod heriol yma, a chyngor ac adnoddau i gyflogeion ar ofalu am les meddyliol a chorfforol.
Mae’r weminar hon yn ystyried natur ein meddyliau a sut mae posib dylanwadu arnynt.
Yng nghyd-destun y sefyllfa bresennol, mae’n edrych ar y canlynol:
- Ffyrdd o feddwl di-fudd cyffredin
- Technegau i herio meddyliau di-fudd
- Cyngor ar gyfer rheoli pryder, gan gynnwys ‘Derbyn’ a ‘Meddwlgarwch’
Ar ôl cwblhau’r cofrestru am ddim, byddwch yn derbyn e-bost yn manylu ar y cyfarwyddiadau ymuno ar gyfer y digwyddiad hwn ar Microsoft Teams.