Cymorth i Gyflogwyr
Mae gweithredu’n rhagweithiol gyda lles y gweithle yn dda i’ch cyflogeion ac yn dda i’r busnes.
Gall hybu a gwella iechyd a lles y staff helpu gyda:
- Lleihau absenoldeb salwch a throsiant staff
- Cynyddu cynhyrchiant a gwella eich llinell waelodol
- Cymell a chynnwys eich cyflogeion
- Meithrin amgylchedd gwaith agored a chynhwysol
Rhaglenni Iechyd y Gweithle
Mae gweithlu hapus ac iach yn un cynhyrchiol. Mae ein Rhaglenni Iechyd y Gweithle yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth ymgynghori am ddim i fusnesau sydd â hyd at 250 o gyflogeion yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr.
Gallwn ddarparu cyngor, cyfarwyddyd a gwybodaeth gyfeirio am:
- Cefnogi cyflogeion sydd â chyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith, i helpu i’w cadw mewn gwaith.
- Datblygu polisïau ac arferion sy’n cefnogi rheoli absenoldeb salwch a hybu iechyd a lles y staff.
- Darparu gweithgareddau hybu iechyd yn y gweithle i annog a galluogi cyflogeion i fyw bywydau iach a gwneud dewisiadau sy’n cefnogi eu lles.
Gallwn eich cefnogi chi i greu gweithle hapusach ac iachach – ble bynnag yw eich man cychwyn.
Gweithdai a Seminarau Lles
Rydyn ni’n cyflwyno Seminarau Gwella Lles y Gweithle misol sy’n cyflwyno crynodeb o’n cymorth unigol a busnes. Mae’r sesiynau hyn yn fan cychwyn gwych i fusnesau sy’n awyddus i wella lles cyflogeion a rhoi cyfle i BBaCh lleol gofrestru ar gyfer Rhaglen Iechyd y Gweithle am ddim.
Gall Rhaglenni Iechyd y Gweithle gael eu teilwra i fodloni gofynion penodol eich sefydliad a gallant gynnwys cyfuniad o sesiynau ymwybyddiaeth yn y gwaith i’ch cyflogeion neu un o’n gweithdai lles y cyflogwr – i gefnogi Perchnogion Busnes, Rheolwyr Llinell, Goruchwylwyr ac Arweinwyr Timau gyda phynciau lles allweddol.
Edrychwch ar y dyddiadau sydd i ddod ar ein tudalen digwyddiadau, neu gysylltu i gofrestru ar gyfer Rhaglen Iechyd y Gweithle a gallwn drefnu i gyflwyno sesiwn (sesiynau) ymwybyddiaeth yn eich man gwaith, am ddim. Mae ein gweithdai a’n sesiynau ymwybyddiaeth yn ymarferol, yn llawn gwybodaeth ac yn gryno, gan ddarparu syniadau ac adnoddau i ysbrydoli a rhoi gwybodaeth.
Cymorth i’ch Cyflogeion
Gall problemau iechyd meddwl, fel straen neu bryder neu faterion corfforol fel problemau gyda’r cyhyrau a’r cymalau, effeithio ar berfformiad cyflogeion yn y gwaith neu eu gorfodi i gymryd amser o’r gwaith – sy’n gallu effeithio yn fuan iawn arnyn nhw a chi. Gall ein cymorth mynediad cyflym helpu i ddatrys problemau cyn gynted â phosib, gan gefnogi eich cyflogeion yn ôl i’r gwaith cyn gynted â phosib ar ôl absenoldeb; neu osgoi’r angen am iddynt gymryd amser o’r gwaith.