Hygyrchedd
Mae cynllun y safle’n ystyried defnyddwyr sy’n ddall neu â cholled golwg ac mae’n cyd-fynd â meddalwedd darllen sgrin boblogaidd.
Mae hygyrchedd y wefan hon yn cael ei lywio gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (WCAG). Mae WCAG yn cael eu derbyn yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we. Rydym yn gweithio gydag awduron cynnwys, datblygwyr a sefydliadau anableddau er mwyn bodloni’r safon AA pan fo hynny’n bosib.
Isod mae cynghorion ar addasu’r testun ar eich sgrin os oes angen:
Maint y testun
Os ydych yn teimlo bod maint testun diofyn y wefan yn rhy fawr neu’n rhy fach, gallwch ei newid gyda swyddogaeth maint testun mewnol eich porwr.
I newid maint y testun gan ddefnyddio eich porwr:
- defnyddio’r ddewislen ‘View’ ac wedyn dewis ‘Text Size’, yn Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
- defnyddio’r ddewislen ‘View’ ac wedyn dewis ‘Text Size’, yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
- defnyddio ‘View’ ac wedyn yr opsiynau ‘Make Text Bigger’, yn Safari
- defnyddio’r dewislenni ‘View’ a ‘Style’, ac wedyn ‘User Mode’, yn Opera
- defnyddio ‘View’ ac wedyn dewislen ‘Text Zoom’, yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7
Gyda llygoden olwyn, efallai y gallwch chi newid maint y testun drwy ddal yr allwedd Control neu Command i lawr a throi’r olwyn. Mewn rhai porwyr, gallwch newid maint y testun gan ddefnyddio Control neu Command a’r allweddi + neu – .
Steil a lliw y testun
Gallwch hefyd ddewis steiliau a lliwiau’r ffont, a hefyd y lliwiau blaendir a chefndir. Mae’r ffordd rydych yn gwneud hyn yn amrywio o borwr i borwr a bydd rhaid i chi wneud y canlynol:
- defnyddio ‘Tools’ yn ‘Internet Options’, gyda Windows Internet Explorer (gan gynnwys Pocket IE)
- defnyddio ‘Tools’ yn ‘Options’ o dan ‘Content’, yn Firefox a phorwyr Mozilla eraill
- defnyddio ‘View’ ac wedyn yr opsiynau ‘Make Text Bigger’, yn Safari
- defnyddio’r ddewislen ‘View’ ac wedyn ‘Zoom’, yn Opera
- defnyddio’r ddewislen ‘View’ ac wedyn ‘Text Zoom’, yn Macintosh Internet Explorer, a Netscape 6 a 7
Os cewch unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hwn neu os hoffech roi adborth, cofiwch gysylltu â ni.